Y Gorlan
Dyma ein bwthyn mwyaf poblogaidd – yn glyd a chysurus gyda gardd fach breifat wedi’i amgylchynu gan waliau cerrig – lle diogel a chysgodol braf i’r plant neu’r ci! Mae awyrgylch braf yn y Gorlan gyda dau ddrws patio yn arwain i’r ardd a daw ein gwesteion yn ôl tro ar ôl tro. Mae’r drysau patio yma’n denu haul, golau a chynhesrwydd i’r bwthyn ac yn aml iawn does dim angen y gwres canolog!
Mae lle yn y Gorlan I bedwar o bobl gysgu mewn dwy lofft.
Mae gwres tan-ddaear yn cadw’r llawr isaf yn gynnes gyda rheiddiaduron ar y llawr cyntaf. Rydym yn darparu eich tyweli a dillad gwely i gyd ac mae modd benthyg cadair uchel a cot.
Mae Wifi ar gael trwy'r bwthyn ond gan ein bod mewn ardal wledig, gall y cryfder amrywio o bryd i'w gilydd.
Gellir archebu gwyliau byr ar adegau penodol o'r flwyddyn. Rydym yn derbyn hyd at ddau gi fesul ty - £25 fesul ci fesul arhosiad - rhaid dilyn y rheolau.
Llawr Isaf
CEGIN/YSTAFELL FYW/YSTAFELL FWYTA - Dyma ystafell agored a golau gyda nenfwd uchel a’r trawstiau gwreiddiol yn cyd-fyw â chegin fodern hufen gyda phopty a hob trydan, popty meicro, oergell gyda chwpwrdd rhewi bychan, peiriant golchi llestri a pheiriant coffi.
Mae teledu, chwaraewr DVD a Nintendo Wii.
YSTAFELL YMOLCHI – bath gyda cawod ynddo, a rheiddiadur i sychu tyweli.
YSTAFELL WELY 1 - Ystafell ddwbwl.
Llawr Cyntaf
Mae grisiau wedi ei adeiladu gan saer lleol yn arwain o’r lolfa i’r ystafell wely uwchben gyda’i ddau wely sengl pin. Nid yw’r groglofft yma’n addas ar gyfer plant oherwydd y grisiau agored.
Mae gardd gysgodol o flaen y Gorlan a bwrdd a meinciau a gardd fawr i’w rhannu yn y cefn. Mae digon o le parcio.
Mae mannau eistedd o gwmpas y tri bwthyn a gardd fawr i'w rhannu yn y cefn. Mae BBQ nwy a chelfi ar gyfer pob bwthyn.
Mae cwt golchi ar gyfer defnydd pawb ar y safle gyda pheiriant golchi dillad a pheiriant sychu dillad.
- arwydd 'y Gorlan' allan o llechen
- 2 set o drysau patio a bwrdd picnic yn y Gorlan Carrog
- yr ardd yn y Gorlan Carrog
- y gegin, hefo bwrdd bwyd a hamper carrog
- potel o win pefriog a bara brith ar ffwrdd bwyd yn y Gorlan Carrog
- y gegin ac ystafell fyw yn y Gorlan Carrog
- ystafell fyw. dwy soffa ledr coch yn y Gorlan Carrog
- ystafell ymolchi. bath a sinc gwyn yn y Gorlan Carrog
- drych yn dangos adlewyrchiad o wely dwbl yn y Gorlan Carrog
- Ystafell wely twin yn y Gorlan Carrog