Datganiad Mynediad
Cyflwyniad
Adeiladau fferm oedd y bythynnod yn wreiddiol wedi'i hadeiladu ar fryn sydd yn golygu eu bod ar dir uwch na'r man parcio ac mae'r ardd yn uwch na'r bythynnod. Mae'n annorfod felly fod stepiau yn arwain o'r man parcio i'r bythynnod a stepiau hefyd o'r bythynnod i'r ardd. Oherwydd hyn teimlwn nad oes run o'r bythynnod yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Mae gan pob bwthyn larymau mwg trydanol sydd yn defnyddio batri pan fo'r trydan i ffwrdd.
Mae gan pob bwthyn oleuadau argyfwng wedi'i gosod uwchben pob grisiau.
Mae pob bwthyn wedi'i weirio yn RDS sydd yn golygu fod y swits trip yn troi gyda phob problem trydanol – yn fach (bylb yn ffiwsio) neu'n fawr.
Man Parcio
Mae man parcio mawr o flaen y bythynnod a gellir defnyddio'r man parcio yma ar gyfer y tri bwthyn.
O'r man parcio yma mae stepiau cerrig yn arwain at Beudy Carrog a Stabal Carrog. Does dim stepiau at Y Gorlan.
Mae man parcio bychan wrth dalcen Stabal Carrog gyda dwy step yn arwain at y drws.
Gardd
Ceir mynediad i'r ardd fyny stepiau cerrig o'r tri bwthyn.
Stabal Carrog
Oherwydd natur yr adeilad – mae stepiau o un ystafell i'r llall ar y ddau lawr ac felly'n golygu ei fod yn gwbwl anaddas i bobl â phroblemau symud.
Mae golau digonol ym mhob ystafell a goleuadau argyfwng uwchben y grisiau.
Llawr isaf
Cegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi, ystafell wely ddwbwl.
Cegin ac Ystafell Fyw
Ceir mynediad i'r ystafell fyw i lawr dau step o'r gegin.
Ystafell Ymolchi
Mae ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod gyda bath a chawod ystafell wlyb.
Ystafell Wely Dwbwl
Mae stepiau'n arwain lawr i'r ystafell ddwbwl gyda chanllaw.
Llawr Uchaf
Ystafell deuluol (pedwar gwely sengl), ystafell gawod ac ystafell wely dwbwl.
Ystafell Wely Dwbwl
I fynd i'r ystafell wely dwbwl a'r ystafell gawod mae'n rhaid mynd lawr stepiau gyda chanllaw.
Ystafell Gawod
Mae ystafell gawod ar y llawr uchaf gyda chawod isel (low level).
Mae'r to'n gwyro yn yr ystafelloedd llawr uchaf i gyd.
Beudy Carrog
Mae Beudy Carrog wedi'i adeiladu ar dir gwastad ac mae yma ddwy ystafell wely dwbwl ar y llawr gwaelod ac ystafell ymolchi hefyd. Mae golau digonol ym mhob ystafell a golau argyfwng uwchben y grisiau.
Llawr Isaf
Cegin, ystafell fyw, dwy ystafell wely dwbwl ac ystafell ymolchi.
Ystafell Ymolchi
Mae ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod gyda bath a chawod ystafell wlyb.
Llawr Uchaf
Ystafell gwylio teledu i blant a llofft gyda dau wely sengl.
Mae'r mynediad i'r ail lawr yn isel.
Mae'r to'n gwyro yn yr ystafelloedd llawr uchaf i gyd.
Y Gorlan
Does dim stepiau'n arwain at y Gorlan.
Mae'r Gorlan wedi'i adeiladu ar dir gwastad a chyda ystafell wely dwbwl ac ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod.
Mae golau digonol ym mhob ystafell a golau argyfwng uwchben y grisiau.
Llawr gwaelod
Cegin fyw, ystafell wely dwbwl ac ystafell ymolchi.
Ystafell Ymolchi
Mae ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod gyda bath a chawod uwchben y bath.
Llawr uchaf
Mae ystafell wely galeri ar y llawr uchaf yn agored o'r gegin fyw sydd yn gwbwl anaddas i blant ifanc.
Mae'r to'n gwyro yn yr ystafell wely yma.