Amdanom

Cefndir

Mae Carrog yn fferm biff a llaeth yn cyflewni llefrith i Hufenfa De Arfon yn Chwilog.

Lleolir `Carrog’ (gair sy’n golygu `ffrwd’) mewn man tawel ond canolog ar y Llyn. Mae wedi’i adeiladu ar fryn sy’n golygu golygfeydd godidog o’r tir o’i gwmpas yn ffermydd a draw dros y môr. Ar ddiwrnod clir gwelwch Iwerddon yn y pellter ac yn aml gwelir llongau mawr ar y gorwel.

Yn 2008 fe benderfynwyd trosi adeiladau fferm Carrog yn fythynnod gwyliau hunan-ddarpar i bawb allu mwynhau’r lleoliad tawel braf. Llwyddwyd i greu tri bwthyn hunan-ddarpar bendigedig sydd yn berffaith ar gyfer teuluoedd yn dymuno dianc o fywyd pob dydd.

Ar dir Carrog mae Ffynnon Lleuddad oedd ar un adeg yn gyrchfan bwysig i bererinion ar eu ffordd i Enlli a credai pobl fod ei dwr yn gallu gwella unrhyw salwch ar ddyn neu anifail.