Castell Coch

Dyma gyn reithordy urddasol or bedwaredd ganrif ar bymtheg a'i dir yn cefnu ar gaeau bythynnod fferm Carrog.  Wedi gwaith sylweddol yn 2024 mae'n cynnig ty gwyliau moethus ar gyfer 9 o bobol mewn 5 llofft.  Mae'r ffenestri mawr yn berffaith i fwynhau'r golygfeydd draw am y môr.  Gyda ystafelloedd mawrion a nenfydau uchel mae yma gymeriad arbennig i'r ty sydd yn siwr o blesio'r gwesteion. Mae yma ardd draddodiadol enfawr gyda digonedd o le I eistedd a thwb poeth – lle perffaith i deulu a ffrindiau.  Darperir eich tyweli i gyd ac mae yma cot a chadair uchel.  Gwres canolog a 3 stôf goed.  Rydym yn derbyn 2 gi £25 yr un. Mae'n bosib archebu wythnosau neu wyliau byr trwy gydol y flwyddyn.  Mae Castell Coch 15 munud o gerdded neu 5 muud yn y car o fythynnod Carrog. Gallwch archebu'r 4 ar gyfer grwpiau mawr hyd at 27 o bobol ac mae hyn yn berffaith os dach chi'n dymuno gwyliau gyda'r teulu tra'n gallu dianc am sbel.

LLAWR ISAF

Ystafell eistedd – mae'r cegin morynion gwreiddiol wedi'i thrawsnewid yn ystafell eistedd bach i'ch croesawu i'r ty gyda stôf goed a chypyrddau gwreiddiol bob ochor i'r lle tân.

Cegin – dyma ystafell olau fodern gyda 2 bopty, hob induction, fridge freezer, popty micro, peiriant coffi a pheiriant golchi llestri. Mae'r bwrdd cegin yn eistedd hyd at 12 o bobol yn gyfforddus. Mae yma deledu a bar brecwast bychan – digon i ddwy stôl

Utility – ystafell ddefnyddiol gyda pheiriant golchi dillad, peiriant sychu dillad, sinc, cypyrddau a fridge freezer ychwanegol.

Ystafell gawod gyda sinc a wc.

Ystafell eistedd 1 – ystafell olau braf gyda stôf goed yn y lle tân croes gongol brics coch gwreiddiol a theledu.

Ystafell eistedd 2 – ystafell gysurus arall gyda stôf goed a theledu.

LLAWR CYNTAF

Llofft 1 - gyda ystafell gawod ei hun. Mae hon yn ystafell fawr braf gyda gwely king a dodrefn traddodiadol derw. Mae'r ddwy ffenestr yn rhoid dewis o olygfa môr neu golygfa'r ardd.

Llofft 2 – llofft felyn gyda gwely king haearn a lle tân gwreiddiol llechen (dim mewn defnydd).  Carthen gymreig traddodiadol a theledu.

Llofft 3 – ystafell gyda 2 wely sengl a lle tân Fictorianaidd draddodiadol (dim mewn defnydd).  Mae'r ffenestr fawr yn creu ystafell olau a chyfforddus.
Ystafell gawod deulu.

Mae llofft 4 a 5 lawr dau gam yn yr hen ddarn morynion o'r ty.

Llofft 4 – ystafell gysurus gyda 2 ffenestr yn edrych allan ar yr ardd.  Gwely haearn bendigedig wedi'i beintio mewn lliw Charlotte's Locks, Farrow & Ball.

Llofft 5 – ystafell sengl gyda hen le tân pren (dim mewn defnydd) a gwely haearn traddodiadol lliw piwtar.

TU ALLAN

Gardd ddiogel enfawr gyda hen goed ffrwythau a choed blodau.  Mae yma ffynnon gron 15 troedfedd o ddyfnder (gyda chaead diogel) a thwba poeth – lle delfrydol I fwynhau gyda theulu a ffrindiau.  Mae yma farbeciw nwy a llefydd I eistedd ac ymlacio. Mae criw o anifeiliaid tegan cynhenid yn llechu yn yr ardd yn barod i'r plant gael hyd iddynt mewn helfa bywyd gwyllt.  Rhywbeth bach i'w diddori am sbel.


Calendr


  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch
  • Castell Coch