Beudy Carrog

Y Beudy yw’r bwthyn yn y canol. Ceir y dyddiad 1894 wedi’i grafu ar y distiau yn yr ystafell fyw. Os y dewch ar wyliau i’r Beudy – ni chewch eich siomi – mae golygfa fendigedig o’r ystafelloedd – cefn gwlad a môr!

Mae lle i chwech o bobl mewn tair llofft yn y Beudy gyda gwres tan-ddaear ar y llawr isaf a rheiddiiaduron ar y llawr cyntaf. Rydym yn darparu eich tyweli a dillad gwely i gyd a gellir benthyg cot a chadair uchel.

Mae wifi ar gael trwy'r bwthyn ond gan ein bod mewn ardal wledig, gall y cryfder amrywio o bryd i'w gilydd.

Gellir archebu gwyliau byr ar adegau penodol o'r flwyddyn. Rydym yn derbyn hyd at ddau gi fesul ty - £25 fesul ci fesul arhosiad - rhaid dilyn y rheolau.

Llawr Isaf

CEGIN draddodiadol mewn hufen gyda phopty, hob trydan, popty meicro, oergell a rhewgell, peiriant golchi llestri a pheiriant coffi. Mae'r bwrdd yn ddelfrydol i bryd teulol.

LOLFA â nenfwd uchel, llawr derw a drysau ffrengig yn arwain i’r ardd fawr yn y cefn. Mae meinciau y tu allan i chi wylio’r plant yn chwarae. Mae teledu, chwaraewr DVD a Nintendo Wii.

YSTAFELL WELY 1 – ystafell ddwbwl.

YSTAFELL WELY 2 – ystafell ddwbwl

YSTAFELL YMOLCHI - bath, cawod ar wahan a rheiddiadur i sychu tyweli.

Llawr Cyntaf

YSTAFELL WELY 3 - Croglofft gyda dau wely sengl pin.

YSTAFELL YMLACIO gyda `bean bag’ lledar anferthol, teledu, chwaraewr DVD, PlayStation 2 a digon o gemau. Lle delfrydol i’r plant ddianc!

Mae lle eistedd braf yn yr haul o flaen y Beudy a gardd fawr i’w rhannu yn y cefn. Mae digon o le parcio gyda BBQ nwy ar gyfer pob bwthyn.

Mae cwt golchi ar gyfer defnydd pawb wrth ymyl y bythynnod gyda pheiriant golchi dillad a pheiriant sychu dillad.


Calendr/Archebu ar-lein...


  • Tu allan i Beudy Carrog gyda bwrdd picnic
  • Tu allan i Beudy Carrog gyda grisiau carreg
  • drws gwyn Beudy Carrog
  • gardd fawr a'r Beudy Carrog yn y cefndir
  • bwrdd bwyd hefo llestri arno yn Beudy Carrog
  • bwrdd bwyd gyda cegin yn y cefndir yn Beudy Carrog
  • ystafell fyw - cadeiriau lledr a 2 gadair fawr yn Beudy Carrog
  • lle tan a blodau yn Beudy Carrog
  • ystafell wely dwbl yn Beudy Carrog
  • ystafell wely dwbl yn Beudy Carrog
  • drych yn adlewyrchu ystafell wely dwbl yn Beudy Carrog
  • ystafell wely gyda 2 wely sengl yn Beudy Carrog