Amdanom

Ein cefndir, hanes a beth sydd ar gael...

Mae Carrog yn un o ddwy fferm biff a llaeth gennym ni ar Ben Llŷn. Yma yng Ngharrog ceir gwartheg biff a gwartheg llaeth ifanc yn y caeau o amgylch. Ar y fferm arall rhyw filltir o Carrog rydym yn godro 120 o wartheg gan werthu’r llefrith i Hufenfa De Arfon yn Chwilog.

Lleolir `Carrog’ (gair sy’n golygu `ffrwd’) mewn man tawel ond canolog ar y Llyn. Mae wedi’i adeiladu ar fryn sy’n golygu golygfeydd godidog o’r tir o’i gwmpas yn ffermydd a draw dros y môr. Ar ddiwrnod clir gwelwch Iwerddon yn y pellter ac yn aml gwelir llongau mawr ar y gorwel.

Yn 2008 fe benderfynwyd trosi adeiladau fferm segur Carrog yn fythynnod gwyliau hunan-ddarpar i bawb allu mwynhau’r lleoliad tawel braf.
Yn ystod 2009-2010 llwyddwyd i greu tri bwthyn hunan-ddarpar bendigedig sydd yn berffaith ar gyfer teuluoedd yn dymuno dianc o fywyd pob dydd.

Yng nghyfrifiad 1861 dysgwn fod Carrog bryd hynny hefyd yn fferm 120 acer a phennaeth y teulu oedd Elisabeth Jones oedd yn ffermio’r tir gyda dau fab ifanc, tri gwas a morwyn.

Yn 1923 ysgrifennodd Huw Williams, Nant, Llangwnadl, am yr ardal – y tai a’r trigolion.  Soniodd am Carrog `adeiladwyd tŷ yn lle’r bwthyn to gwellt gwreiddiol a beudai newydd yn y dull cyfoes’.

Dyfalwn felly fod adeiladau fferm Carrog – y Beudy, Stabal a’r Gorlan wedi’i hadeiladu yn ystod oes Huw Williams.  Gallwn gymryd hefyd fod tŷ fferm Carrog wedi’i adeiladu o’r newydd yn yr un amser.

Mae `Carrog’ yn air arall am `ffrwd’ ac yn y caeau o flaen y ffermdy mae ffrwd a ffynnon sydd yn enwog ar lafar gwlad.

Roedd `Ffynnon Lleuddad’ ar un adeg yn gyrchfan bwysig i bererinion ar eu ffordd i Enlli a credai pobl lleol fod ei dyfroedd yn gallu gwella unrhyw salwch ar ddyn neu anifail.

Yn anffodus does fawr o ddim i’w weld heddiw o’r ffynnon wyrthiol hon.

Roedd Lleuddad, brawd Henwyn a Padarn yn un o’r seintiau mwyaf dylanwadol yn Llŷn.  Roedd y tri brawd wedi dilyn Cadfan o Lydaw i Gymru.  Roedd Lleuddad yn ffigwr pwysig ar Ynys Enlli a daeth yn Abad yr ynys ar ôl Cadfan.  Ymddangosodd angel i Lleuddad i’w rybuddio o’i farwolaeth a dywedir iddo ofyn i’r angel am dri dymuniad.

Y dymuniad cyntaf oedd i fynachod Enlli fyw bywydau hir ar yr ynys a marw o henaint yn unig tra roeddynt yn dal yn ffyddlon i Dduw.  Cychwynodd hyn y traddodiad o fynachod yn ymddeol i Enlli lle gallant fyw gweddill eu dyddiau mewn heddwch.  Felly daeth y chwedl fod ugain mil o seintiau wedi’i claddu ar yr ynys.  Ar Ynys Enlli, gyferbyn â’r capel mae cae o’r enw Gerddi Lleuddad a gelwid tŷ’r ficer yn Plas Lleuddad.  Nepell o Borth Cadlan ger Aberdaron mae Ogof Lleuddad lle dywedir i’r Sant fynd i weddio mewn llonydd o bryd i’w gilydd.  Ym mhlwyf Bryncroes roedd Eglwys Lleuddad yn bodoli ar un adeg ac mae yna dŷ o’r enw Bryn Lleuddad o hyd ger Carrog.